Mae prosiect cyffrous ar waith i greu gwefan siopa newydd i Aberteifi.
Gwasanaeth ‘clicio a chasglu’ yw Basged Teifi sy’n galluogi defnyddwyr lleol i brynu bwyd wrth gynhyrchwyr a siopau lleol o un lleoliad.
Bydd hyn yn rhoi dewis i bobl sydd am, neu’n gorfod siopa ar-lein, i beidio defnyddio’r archfarchnadoedd mawr. Mae hefyd yn cefnogi busnesau lleol, helpu economi Aberteifi a rhoi mwy o ddewis – sicrhau bod cynnyrch lleol arbennig, nawr ar gael drwy’r we.
Mae tîm o Brifysgol Nottingham wedi edrych ar y cysyniad ac mae cwmni cynllunio gwefannau lleol wedi creu gwefan brototeip. Mae nifer o fasnachwyr lleol wedi cytuno i fod ynghlwm â’r cyfnod arbrofol.
Rydym ar hyn o bryd yn edrych ar ariannu’r cynllun er mwyn treialu’r gwasanaeth yn fyw – cyn ei gynnig i’r cyhoedd…