Drwy weithio gyda Grow Wild , mae 4CG yn cefnogi prosiect ar gyfer pob cenhedlaeth, i blannu deuddeg math o flodau gwyllt o gwmpas Aberteifi.

Nod y prosiect yw helpu pobl ifanc i ddeall yr effeithiau cadarnhaol y gallant gael ar eu amgylchedd wrth weithio gyda'i gilydd - creu buddiannau iddynt hwy ac eraill, yn ogystal a chael hwyl.

Bydd yr amrywiol safleoedd o gwmpas tref Aberteifi yn creu gwledd i'r synhwyrau (yn ogystal â thiriogaeth ffrwythlon i bryfed lleol) sy'n anelu i ysbrydoli a magu cariad gan bawb tuag at flodau gwyllt. 

Clive Davies, Ysgrifennydd 4CG yn un o'r safleoedd blodau gwyllt.
Poster Grow Wild yn Aberteifi
Gwnïo gwenynen mewn gweithdy Grow Wild

Nid hau blodau gwyllt yn unig - rydym hefyd yn eu gwnïo!

Mae gweithdai gwau a thyfu wythnosol yn galluogi pobl i greu treflun arbennig ar gyfer trigolion lleol, ymwelwyr a gwenyn - ac yn rhoi ymdeimlad o gyflawniad iddynt.

Mae 'Aberteifi Cardigan Knitters', 'Blooming Wild Cardigan', 'Pendre Art' a Lisa Hellier yn bartneriaid yn y prosiect.

Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Facebook y prosiect.