Mae dros 150 tunnell o bysgod yn cyrraedd Bae Aberteifi yn flynyddol ac mae’r cwbl yn cael ei gludo i ffwrdd i’w werthu.
Mae 4CG yn gweithio gyda grŵp gweithredu lleol pysgodfeydd (F.L.A.G.) i archwilio’r posibilrwydd o greu ffatri brosesu yn Aberteifi, er mwyn sicrhau bod y gymuned leol yn elwa fwy o’r hyn sy’n cyrraedd Bae Aberteifi, ac i werthu’n lleol yr hyn sy’n ran o fwyd môr gorau’r byd.
Mae’r Cimwch, Draenog y Môr a’r Cranc Heglog yn cael eu dal yn lleol, ac er bod galw mawr am rhain, cânt eu gwerthu i fasnachwyr ar gyfer y farchnad allforio, yn bennaf i Sbaen, Ffrainc a Phortiwgal.
Yn ôl pysgotwyr lleol, mae’r incwm a ddaw o’r llwybr masnach yn gostwng.
Mae 4CG yn gweithio gyda physgotwyr lleol i archwilio’r potensial o ddatblygu masnach gwahanol, yn seiliedig ar y daliad cynaliadwy o answadd uchel, sydd ar gael o Fae Aberteifi, er mwyn dod a mwy o arian i’r economi leol.
Rhan gyntaf y prosiect yw gweld beth sy’n bosib o ran datblygu cyfleusterau prosesu yn Aberteifi – gan ddechrau’n fach a datblygu a chynyddu os byddai’n llwyddiannus.
Mae’r astudiaeth gychwynol a gafodd ei ariannu gan F.L.A.G wedi ei chwblhau, gan gynnwys ymchwiliad demograffig, maint y farchnad a’r galw, a hefyd y costau.
Cam nesa’r prosiect yw dod o hyd i uned fwyd addas.