Prosiect cyntaf 4CG oedd prynu hen safle Co-op ym Mhwllhai yn 2010. Bellach, mae’r safle wedi cael ei adfywio i gynnwys maes parcio ac unedau busnes.

Mae creu parcio cyfleus, rhatach a hygyrch wedi bod yn un o brif nodau 4CG ers y dechrau. Mae costau cynyddol ac argaeledd mannau parcio yn y dref, yn enwedig yn ystod yr haf, yn broblem barhaus. Mae creu cyfleusterau rhad yn helpu i ddenu siopwyr ac ymwelwyr i ganol y dref.

Disgwylir i nifer o siopau’r stryd fawr dalu cymaint â £1000 y mis o Dreth y Cyngor, ac mae gan ein meysydd parcio sy’n eiddo i’r Cyngor, rai o’r ffioedd uchaf yng Ngheredigion. Mae parcio cyfleus a fforddiadwy yn elfennol i ffyniant a bodolaeth ein stryd fawr.

Mae ffioedd parcio 4CG yn llawer rhatach na’r mwyafrif o feysydd parcio eraill, gan leihau’r gost o barcio yng nghanol tref Aberteifi o £1 ym meysydd parcio’r Cyngor, i 40c.

Yn dilyn llwyddiant y maes parcio cyntaf, prynodd 4CG ail safle yn Chancery Lane a agorodd ym mis Mai 2011, sy’n rhoi dau leoliad hygyrch i’r stryd fawr.

Taliadau parcio ceir

Hyd at 1/2 awr: 40c

Hyd at 1 awr: 60c

Hyd at 2 awr: £1.00

Hyd at 3 awr: £1.50


 

Map of Car Parks

 

Map o ganol tref Aberteifi yn dangos lleoliad y ddau faes parcio:

  1. Pwllhai
  2.  Chancery Lane