Er mwyn gwella opsiynau i drigolion ac ymwelwyr Aberteifi gael mynediad i’r rhyngrwyd, mae 4CG wedi gosod gwasanaeth Wifi yn y dref, ar ffurf talu-wrth-ddefnyddio.
Mae’r rhwydwaith ar draws Aberteifi yn defnyddio cysylltiad band-eang newydd, cyflym sy’n cynnig cyflymder pori da hyd yn oed i nifer o ddefnyddwyr ar yr un pryd.
Golyga’r gwasanaeth bod gan ddefnyddwyr ar draws Aberteifi opsiwn afforddadwy i fynd ar-lein, heb orfod gwneud taliadau drud, gosod llinell ffôn, na chael contract tymor-hir.
Yn lle hynny, gall defnyddwyr dalu am gyfnodau pan fo angen, drwy PayPal, heb unrhyw ymrwymiad.
Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth, chwiliwch am ‘hotspot’ Rhwyd Teifi – wedi i chi gysylltu, bydd yn eich arwain drwy’r camau priodol i fynd ar-lein.