Roedd 4CG yn un o’r pedwar yn rownd derfynol Gwobr Menter Cymdeithasol Cymru 2014.
Hyrwyddir y gwobrau gan Ganolfan Gydweithredol Cymru er mwyn cydnabod llwyddiannau busnesau ac unigolion ymroddedig a blaengar sy’n gyrru’r diwydiant.
Hefyd yn y rownd derfynol oedd Dwr Cymru (Welsh Water), Frame Ltd., cwmni cymunedol ail-ddefnyddio o Sir Benfro, a Greenstream Flooring sy’n ail-ddefnyddio teils carped ar gyfer cartrefi cymdeithasol.
“They are all trail blazers in driving the increasingly vibrant economy”.
Mae’n wobr o fri ac mae bod yn y rownd derfynol yn profi bod gwaith 4CG yn cael ei werthfawrogi trwy Gymru.

Rhai o Gyfarwyddwyr gwirfoddol 4CG o’r chwith i’r dde. Gwenda Mark, Richard Williams, Cris Tomos, Clive Davies, Brian Mark a Shan Williams.