4CG i fod yn gyfrifol am doiledau Aberteifi.

Chancery Lane Public Toilets in Cardigan,

Mae’r toiledau cyhoeddus ynghanol tref Aberteifi wedi cau ers Gorffennaf 2014. Gan nad oes digon o gyllid gan yr Awdurdod Lleol, mae 4CG wedi cytuno i fod yn gyfrifol amdanynt.

Ers i’r Awdurdod Lleol roi’r gorau i ariannu’r toiledau, mae Cyngor Tref Aberteifi wedi bod yn chwilio am ffordd cost-effeithiol er mwyn ail-agor y cyfleusterau hanfodol hyn.

Mae 4CG wedi cytuno i gymryd perchnogaeth o’r toiledau yn Chancery Lane a Feidr Fair, eu hadnewyddu, ac ymrwymo i’w cynnal i’r dyfodol.

Yn gyfnewid am hyn, mae Cyngor y Dref wedi rhoi grant o £8,000 tuag at y gwaith adnewyddu. Feidrfair Public Toilets in Cardigan

Mae nifer o Gynghorau eraill yn rhoi contract toiledau i Gwmnïoedd Rheoli Cyfleusterau. Er bydd tâl o 20c am ddefnyddio’r cyfleusterau newydd, bydd unrhyw elw yn aros yn y dref, ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau cymunedol eraill.

Bydd y toiledau newydd yn cynnwys lle i newid babanod, a gwneir y defnydd mwyaf o ynni adnewyddadwy pan fyddant yn agor i’r cyhoedd – gobeithio ym mis Mai 2016.