Mae 4CG yn gweithio gyda'r gymuned ar amrywiaeth o brosiectau sy'n cefnogi ac yn buddsoddi mewn mentrau lleol.

Lle bo'n bosib, mae'n gwaith yn cyd-redeg gyda'r blaenoriaethau a nodwyd yn Neddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol - deddfwriaeth a gyflwynwyd yn ddiweddar sy'n anelu at ffocysu cyrff cyhoeddus i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Y nodau a amlinellir yn y ddeddf yw i greu:

  • Cymru Lewyrchus
  • Cymru Gadarn
  • Cymru Iach
  • Cymru Gyfartal
  • Gwlad o gymunedau cydlynol
  • Gwlad o ddiwylliant bywiog a iaith sy'n ffynnu
  • Cymru gyfrifiol fyd-eang

Gallwch wybod mwy am ein prosiectau isod:

Smartphone user connected to the Internet Rhwyd Teifi – Wifi i Aberteifi - Mynediad cost-effeitiol i'r rhyngrwyd yn Aberteifi - heb gontract.
Cardigan High Street Shops Basged Teifi - Gwasanaeth Clicio a Chasglu yn dod i Aberteifi yn fuan
Car park run by 4CG in Cardigan Parcio fforddiadwy yn Aberteifi - Arbediad o 70% ar barcio i siopwyr yn Aberteifi.
Wild flowers Blodeuo’n Wyllt - Gweddnewid ardaloedd gyda blodau gwyllt
Cardigan Fishermen Cynnyrch pysgod lleol - Marchnad Bysgod Aberteifi.
Cardigan Toilets to be run by 4CG Toiledau - 4CG i fod yn gyfrifol am doiledau Aberteifi